10. Dos trwy dy wlad fel afon, O ferch Tarsis: nid oes nerth mwyach.
11. Estynnodd ei law ar y môr, dychrynodd y teyrnasoedd; gorchmynnodd yr Arglwydd am ddinas y farsiandïaeth, ddinistrio ei chadernid.
12. Ac efe a ddywedodd, Ni chei orfoleddu mwyach, yr orthrymedig forwyn, merch Sidon; cyfod, dos i Chittim; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch.
13. Wele dir y Caldeaid; nid oedd y bobl hyn, nes i Assur ei sylfaenu hi i drigolion yr anialwch: dyrchafasant ei thyrau, cyfodasant ei phalasau; ac efe a'i tynnodd hi i lawr.
14. Llongau Tarsis, udwch; canys anrheithiwyd eich nerth.
15. A'r dydd hwnnw yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrigain, megis dyddiau un brenin: ymhen y deng mlynedd a thrigain y cân Tyrus megis putain.
16. Cymer y delyn, amgylchyna y ddinas, ti butain anghofiedig: cân gerdd yn dda: cân lawer fel y'th gofier.