Eseia 2:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y Gair yr hwn a welodd Eseia mab Amos, am Jwda a Jerwsalem.

2. A bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn ddyrchafedig goruwch y bryniau; a'r holl genhedloedd a ddylifant ato.

3. A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr Arglwydd, i dŷ Duw Jacob; ac efe a'n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef; canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerwsalem.

4. Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a'u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.

5. Tŷ Jacob, deuwch, a rhodiwn yng ngoleuni yr Arglwydd.

6. Am hynny y gwrthodaist dy bobl, tŷ Jacob, am eu bod wedi eu llenwi allan o'r dwyrain, a'u bod yn swynwyr megis y Philistiaid, ac mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant.

7. A'u tir sydd gyflawn o arian ac aur, ac nid oes diben ar eu trysorau; a'u tir sydd lawn o feirch, ac nid oes diben ar eu cerbydau.

8. Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant, i'r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun:

9. A'r gwrêng sydd yn ymgrymu, a'r bonheddig yn ymostwng: am hynny na faddau iddynt.

Eseia 2