Eseia 19:8-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Y pysgodwyr hefyd a dristânt, a'r rhai oll a fwriant fachau i'r afonydd a alarant: felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgânt.

9. Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant feinllin, a'r rhai a weant rwydwaith.

10. A hwy a dorrir yn eu bwriadau, y rhai oll a wnânt argaeau a physgodlynnau.

11. Diau ynfydion yw tywysogion Soan; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd: pa fodd y dywedwch wrth Pharo, Mab y doethion ydwyf fi, mab hen frenhinoedd?

12. Mae hwynt? mae dy ddoethion? a mynegant i ti yr awr hon, a gwybyddant pa gyngor a gymerodd Arglwydd y lluoedd yn erbyn yr Aifft.

13. Tywysogion Soan a ynfydasant; twyllwyd tywysogion Noff, a phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aifft.

14. Cymysgodd yr Arglwydd ynddi ysbryd gwrthnysigrwydd; a hwy a wnaethant i'r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith, fel y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa.

15. Ac ni bydd gwaith i'r Aifft, yr hwn a wnelo y pen na'r gloren, y gangen na'r frwynen.

16. Y dydd hwnnw y bydd yr Aifft fel gwragedd; canys hi a ddychryna, ac a ofna rhag ysgydwad llaw Arglwydd y lluoedd, yr hon a ysgydwa efe arni hi.

17. A bydd tir Jwda yn arswyd i'r Aifft: pwy bynnag a'i cofia hi, a ofna ynddo ei hun; oherwydd cyngor Arglwydd y lluoedd, yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi.

Eseia 19