Eseia 17:6-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Eto ynddo y gadewir lloffion grawnwin, fel ysgydwad olewydden, sef dau neu dri o rawn ym mlaen y brig, a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlon eithaf, medd Arglwydd Dduw Israel.

7. Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr, a'i lygaid a edrychant ar Sanct Israel:

8. Ac nid edrych am yr allorau, y rhai ydynt waith ei ddwylo; ie, nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fysedd, na'r llwyni, na'r delwau.

9. Yn y dydd hwnnw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel cangen wrthodedig, a'r brig, y rhai a adawsant oherwydd meibion Israel: felly y bydd anghyfanhedd‐dra.

10. Oherwydd anghofio ohonot Dduw dy iachawdwriaeth, ac na chofiaist graig dy gadernid: am hynny y plenni blanhigion hyfryd, ac yr impi hwynt â changhennau dieithr.

11. Y dydd y gwnei i'th blanhigyn dyfu, a'r bore y gwnei i'th had flodeuo: ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus.

12. Gwae dyrfa pobloedd lawer, fel twrf y môr y trystiant; ac i dwrf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer.

Eseia 17