Eseia 16:6-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Clywsom am falchder Moab, (balch iawn yw,) am ei falchder, a'i draha, a'i ddicllonedd: ond nid felly y bydd ei gelwyddau.

7. Am hynny yr uda Moab am Moab, pob un a uda: am sylfeini Cir‐hareseth y griddfenwch; yn ddiau hwy a drawyd.

8. Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant; ac am winwydden Sibma, arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei phêr winwydd hi; hyd Jaser y cyraeddasant; crwydrasant ar hyd yr anialwch; ei changhennau a ymestynasant, ac a aethant dros y môr.

9. Am hynny y galaraf ag wylofain Jaser, gwinwydden Sibma; dyfrhaf di, Hesbon, ac Eleale, â'm dagrau: canys ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf, y syrthiodd bloedd.

10. Y llawenydd hefyd a'r gorfoledd a ddarfu o'r dolydd: ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd; ni sathr sathrydd win yn y gwryfoedd; gwneuthum i'w bloedd gynhaeaf beidio.

11. Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn, a'm perfedd am Cir‐hares.

12. A phan weler blino o Moab ar yr uchelfan, yna y daw efe i'w gysegr i weddïo; ond ni thycia iddo.

13. Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd am Moab, er yr amser hwnnw.

Eseia 16