Eseia 16:11-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn, a'm perfedd am Cir‐hares.

12. A phan weler blino o Moab ar yr uchelfan, yna y daw efe i'w gysegr i weddïo; ond ni thycia iddo.

13. Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd am Moab, er yr amser hwnnw.

14. Ond yn awr y llefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, O fewn tair blynedd, fel blynyddoedd gwas cyflog, y dirmygir gogoniant Moab, a'r holl dyrfa fawr; a'r gweddill fydd ychydig bach a di‐rym.

Eseia 16