Eseia 15:7-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Am hynny yr helaethrwydd a gawsant, a'r hyn a roesant i gadw, a ddygant i afon yr helyg.

8. Canys y gweiddi a amgylchynodd derfyn Moab, eu hudfa hyd Eglaim, a'u hochain hyd Beer‐elim.

9. Canys dyfroedd Dimon a lenwir o waed; canys gosodaf ychwaneg ar Dimon, llewod ar yr hwn a ddihango ym Moab, ac ar weddill y wlad.

Eseia 15