Eseia 15:3-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Yn eu heolydd yr ymwregysant â sachliain: ar bennau eu tai, ac yn eu heolydd, yr uda pob un, gan wylo yn hidl.

4. Gwaedda Hesbon hefyd, ac Eleale: hyd Jahas y clywir eu llefain hwynt: am hynny arfogion Moab a floeddiant, pob un a flina ar ei einioes.

5. Fy nghalon a waedda am Moab, ei ffoaduriaid hi a ânt hyd Soar, fel anner deirblwydd; mewn wylofain y dringant hyd allt Luhith: canys codant waedd dinistr ar hyd ffordd Horonaim.

6. Oherwydd dyfroedd Nimrim a fyddant yn anrhaith: canys gwywodd y llysiau, darfu y gwellt; nid oes gwyrddlesni.

7. Am hynny yr helaethrwydd a gawsant, a'r hyn a roesant i gadw, a ddygant i afon yr helyg.

8. Canys y gweiddi a amgylchynodd derfyn Moab, eu hudfa hyd Eglaim, a'u hochain hyd Beer‐elim.

9. Canys dyfroedd Dimon a lenwir o waed; canys gosodaf ychwaneg ar Dimon, llewod ar yr hwn a ddihango ym Moab, ac ar weddill y wlad.

Eseia 15