3. Yn eu heolydd yr ymwregysant â sachliain: ar bennau eu tai, ac yn eu heolydd, yr uda pob un, gan wylo yn hidl.
4. Gwaedda Hesbon hefyd, ac Eleale: hyd Jahas y clywir eu llefain hwynt: am hynny arfogion Moab a floeddiant, pob un a flina ar ei einioes.
5. Fy nghalon a waedda am Moab, ei ffoaduriaid hi a ânt hyd Soar, fel anner deirblwydd; mewn wylofain y dringant hyd allt Luhith: canys codant waedd dinistr ar hyd ffordd Horonaim.
6. Oherwydd dyfroedd Nimrim a fyddant yn anrhaith: canys gwywodd y llysiau, darfu y gwellt; nid oes gwyrddlesni.