Eseia 15:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Baich Moab. Oherwydd y nos y dinistriwyd Ar Moab, ac y distawyd hi; oherwydd y nos y dinistriwyd Cir Moab, ac y distawyd hi.

2. Aeth i fyny i Baith, ac i Dibon, i'r uchelfeydd, i wylo: am Nebo, ac am Medeba, yr uda Moab; bydd moelni ar eu holl bennau, a phob barf wedi ei heillio.

3. Yn eu heolydd yr ymwregysant รข sachliain: ar bennau eu tai, ac yn eu heolydd, yr uda pob un, gan wylo yn hidl.

4. Gwaedda Hesbon hefyd, ac Eleale: hyd Jahas y clywir eu llefain hwynt: am hynny arfogion Moab a floeddiant, pob un a flina ar ei einioes.

Eseia 15