6. Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn dicllonedd â phla gwastadol, yr hwn sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llidiowgrwydd, a erlidir heb neb yn lluddias.
7. Gorffwysodd a llonyddodd yr holl ddaear; canasant o lawenydd.
8. Y ffynidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn, gan ddywedyd, Er pan orweddaist, nid esgynnodd cymynydd i'n herbyn.
9. Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o'th achos, i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o'u gorseddfaoedd.
10. Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd tithau fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni?
11. Disgynnwyd dy falchder i'r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a'th doant.
12. Pa fodd y syrthiaist o'r nefoedd, Lusiffer, mab y wawr ddydd! pa fodd y'th dorrwyd di i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedloedd!
13. Canys ti a ddywedaist yn dy galon, Mi a ddringaf i'r nefoedd; oddi ar sêr Duw y dyrchafaf fy ngorseddfa; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa, yn ystlysau y gogledd;
14. Dringaf yn uwch na'r cymylau; tebyg fyddaf i'r Goruchaf.
15. Er hynny i uffern y'th ddisgynnir, i ystlysau y ffos.
16. Y rhai a'th welant a edrychant arnat yn graff, ac a'th ystyriant, gan ddywedyd, Ai dyma y gŵr a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnasoedd?
17. A osododd y byd fel anialwch, ac a ddinistriodd ei ddinasoedd, heb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref?
18. Holl frenhinoedd y cenhedloedd, ie, hwy oll a orweddasant mewn gogoniant, bob un yn ei dŷ ei hun:
19. Eithr tydi a fwriwyd allan o'th fedd, fel cangen ffiaidd, neu wisg y lladdedigion, y rhai a drywanwyd â chleddyf; y rhai a ddisgynnent i gerrig y ffos, fel celain wedi ei mathru.
20. Ni byddi mewn un bedd â hwynt, oherwydd dy dir a ddifethaist, a'th bobl a leddaist: ni bydd had yr annuwiol enwog byth.
21. Darperwch laddfa i'w feibion ef, am anwiredd eu tadau; rhag codi ohonynt a goresgyn y tir, a llenwi wyneb y byd â dinasoedd.
22. Minnau a gyfodaf yn eu herbyn hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, ac a dorraf allan o Babilon enw a gweddill, a mab, ac ŵyr, medd yr Arglwydd:
23. Ac a'i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn, ac yn byllau dyfroedd; ysgubaf hi hefyd ag ysgubau distryw, medd Arglwydd y lluoedd.