Eseia 14:21-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Darperwch laddfa i'w feibion ef, am anwiredd eu tadau; rhag codi ohonynt a goresgyn y tir, a llenwi wyneb y byd â dinasoedd.

22. Minnau a gyfodaf yn eu herbyn hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, ac a dorraf allan o Babilon enw a gweddill, a mab, ac ŵyr, medd yr Arglwydd:

23. Ac a'i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn, ac yn byllau dyfroedd; ysgubaf hi hefyd ag ysgubau distryw, medd Arglwydd y lluoedd.

24. Tyngodd Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Diau megis yr amcenais, felly y bydd; ac fel y bwriedais, hynny a saif;

25. Am ddryllio Assur yn fy nhir: canys mathraf ef ar fy mynyddoedd; yna y cilia ei iau ef oddi arnynt, ac y symudir ei faich ef oddi ar eu hysgwyddau hwynt.

26. Dyma y cyngor a gymerwyd am yr holl ddaear: a dyma y llaw a estynnwyd ar yr holl genhedloedd.

27. Oherwydd Arglwydd y lluoedd a'i bwriadodd, a phwy a'i diddyma? ei law ef hefyd a estynnwyd, a phwy a'i try yn ôl?

28. Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Ahas, y bu y baich hwn.

29. Palesteina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy drawydd: oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a'i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog.

30. A chynblant y tlodion a ymborthant, a'r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch: a mi a laddaf dy wreiddyn â newyn, yntau a ladd y weddill.

Eseia 14