Eseia 13:5-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd; sef yr Arglwydd, ac arfau ei lidiowgrwydd, i ddifa yr holl dir.

6. Udwch; canys agos yw diwrnod yr Arglwydd; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw.

7. Am hynny yr holl ddwylo a laesa; a chalon pob dyn a dawdd:

8. A hwy a ofnant; gwewyr a doluriau a'u deil hwynt; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd.

9. Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, yn greulon รข digofaint a dicter llidiog, i osod y wlad yn ddiffeithwch; a'i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni.

Eseia 13