Eseia 13:5-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd; sef yr Arglwydd, ac arfau ei lidiowgrwydd, i ddifa yr holl dir.

6. Udwch; canys agos yw diwrnod yr Arglwydd; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw.

7. Am hynny yr holl ddwylo a laesa; a chalon pob dyn a dawdd:

8. A hwy a ofnant; gwewyr a doluriau a'u deil hwynt; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd.

9. Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, yn greulon â digofaint a dicter llidiog, i osod y wlad yn ddiffeithwch; a'i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni.

10. Canys sêr y nefoedd, a'u planedau, ni roddant eu llewyrch: yr haul a dywyllir yn ei godiad, a'r lloer ni oleua â'i llewyrch.

11. A mi a ymwelaf â'r byd am ei ddrygioni, ac â'r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy.

12. Gwnaf ddyn yn werthfawrocach nag aur coeth; ie, dyn na chŷn o aur Offir.

13. Am hynny yr ysgydwaf y nefoedd, a'r ddaear a grŷn o'i lle, yn nigofaint Arglwydd y lluoedd, ac yn nydd llid ei ddicter ef.

Eseia 13