Eseia 13:11-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A mi a ymwelaf â'r byd am ei ddrygioni, ac â'r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy.

12. Gwnaf ddyn yn werthfawrocach nag aur coeth; ie, dyn na chŷn o aur Offir.

13. Am hynny yr ysgydwaf y nefoedd, a'r ddaear a grŷn o'i lle, yn nigofaint Arglwydd y lluoedd, ac yn nydd llid ei ddicter ef.

14. A hi a fydd megis ewig wedi ei tharfu, ac fel dafad heb neb a'i coleddo; pawb a wynebant at eu pobl eu hun, a phawb i'w gwlad eu hun a ffoant.

15. Pob un a geffir ynddi a drywenir; a phawb a chwaneger ati a syrth trwy y cleddyf.

16. Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid; eu tai a ysbeilir, a'u gwragedd a dreisir.

17. Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy, y rhai ni roddant fri ar arian; a'r aur nid ymhyfrydant ynddo.

18. Eu bwâu hefyd a ddryllia y gwŷr ieuainc, ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant: eu llygad nid eiriach y rhai bach.

19. A Babilon, prydferthwch y teyrnasoedd, gogoniant godidowgrwydd y Caldeaid, fydd megis dinistr Duw ar Sodom a Gomorra.

20. Ni chyfanheddir hi yn dragywydd, ac ni phreswylir hi o genhedlaeth i genhedlaeth; ac ni phabella yr Arabiad yno, a'r bugeiliaid ni chorlannant yno.

21. Ond anifeiliaid gwylltion yr anialwch a orweddant yno; a'u tai hwynt a lenwir o ormesiaid, a chywion yr estrys a drigant yno, a'r ellyllon a lamant yno:

22. A'r cathod a gydatebant yn ei gweddwdai hi, a'r dreigiau yn y palasoedd hyfryd: a'i hamser sydd yn agos i ddyfod, a'i dyddiau nid oedir.

Eseia 13