Eseia 13:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Baich Babilon, yr hwn a welodd Eseia mab Amos.

2. Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel, dyrchefwch lef atynt, ysgydwch law, fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion.

3. Myfi a orchmynnais i'm rhai sanctaidd; gelwais hefyd fy nghedyrn i'm dicter, y rhai a ymhyfrydant yn fy nyrchafiad.

4. Llef tyrfa yn y mynyddoedd, yn gyffelyb i bobl lawer; sŵn twrf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull: Arglwydd y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel.

5. Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd; sef yr Arglwydd, ac arfau ei lidiowgrwydd, i ddifa yr holl dir.

6. Udwch; canys agos yw diwrnod yr Arglwydd; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw.

7. Am hynny yr holl ddwylo a laesa; a chalon pob dyn a dawdd:

8. A hwy a ofnant; gwewyr a doluriau a'u deil hwynt; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd.

9. Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, yn greulon â digofaint a dicter llidiog, i osod y wlad yn ddiffeithwch; a'i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni.

10. Canys sêr y nefoedd, a'u planedau, ni roddant eu llewyrch: yr haul a dywyllir yn ei godiad, a'r lloer ni oleua â'i llewyrch.

11. A mi a ymwelaf â'r byd am ei ddrygioni, ac â'r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy.

12. Gwnaf ddyn yn werthfawrocach nag aur coeth; ie, dyn na chŷn o aur Offir.

Eseia 13