Eseia 12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y dywedi yn y dydd hwnnw, Molaf di, O Arglwydd: er i ti sorri wrthyf, dychwelir dy lid, a thi a'm cysuri.

2. Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; gobeithiaf, ac nid ofnaf: canys yr Arglwydd Dduw yw fy nerth a'm cân; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth.

3. Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth.

4. A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw, Molwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd, cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef.

5. Cenwch i'r Arglwydd; canys godidowgrwydd a wnaeth efe: hysbys yw hyn yn yr holl dir.

6. Bloeddia a chrochlefa, breswylferch Seion; canys mawr yw Sanct Israel o'th fewn di.