Eseia 10:25-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Canys eto ychydig bach, ac fe a dderfydd y llid, a'm digofaint yn eu dinistr hwy.

26. Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef, megis lladdfa Midian yng nghraig Oreb: ac fel y bu ei wialen ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn ôl ffordd yr Aifft.

27. A bydd yn y dydd hwnnw, y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di, a'i iau ef oddi ar dy war di; a dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad.

Eseia 10