9. A'm llygad nid arbed, ac ni thosturiaf: rhoddaf arnat yn ôl dy ffyrdd, a'th ffieidd‐dra a fydd yn dy ganol di; a chewch wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn taro.
10. Wele y dydd, wele efe yn dyfod: y boregwaith a aeth allan; blodeuodd y wialen, blagurodd balchder.
11. Cyfododd traha yn wialen drygioni: ni bydd un ohonynt, nac o'u lliaws, nac o'r eiddynt, na galar drostynt.
12. Yr amser a ddaeth, y dydd a nesaodd: na lawenyched y prynwr, ac na thristaed y gwerthwr: canys mae dicllonedd ar ei holl liaws hi.
13. Canys y gwerthydd ni ddychwel at yr hyn a werthwyd, er eu bod eto yn fyw: oblegid y weledigaeth sydd am ei holl liaws, y rhai ni ddychwelant: ac nid ymgryfha neb yn anwiredd ei fuchedd.
14. Utganasant yr utgorn, i baratoi pawb: eto nid â neb i'r rhyfel; am fod fy nicllonedd yn erbyn eu holl liaws.
15. Y cleddyf fydd oddi allan, yr haint hefyd a'r newyn o fewn: yr hwn fyddo yn y maes, a fydd farw gan gleddyf; a'r hwn a fyddo yn y ddinas, newyn a haint a'i difa ef.
16. Eto eu rhai dihangol hwy a ddihangant, ac ar y mynyddoedd y byddant hwy i gyd fel colomennod y dyffryn, yn griddfan, bob un am ei anwiredd.
17. Yr holl ddwylo a laesant, a'r holl liniau a ânt yn ddwfr.
18. Ymwregysant hefyd mewn sachliain, ac arswyd a'u toa hwynt; a bydd cywilydd ar bob wyneb, a moelni ar eu holl bennau hwynt.
19. Eu harian a daflant i'r heolydd, a'u haur a roir heibio: eu harian na'u haur ni ddichon eu gwared hwynt yn nydd dicter yr Arglwydd: eu henaid ni ddiwallant, a'u coluddion ni lanwant: oherwydd tramgwydd eu hanwiredd ydyw.
20. A thegwch ei harddwch ef a osododd efe yn rhagoriaeth: ond gwnaethant ynddo ddelwau eu ffieidd‐dra a'u brynti: am hynny y rhoddais ef ymhell oddi wrthynt.