Eseciel 7:4-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Fy llygad hefyd ni'th arbed di, ac ni thosturiaf: eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti, a'th ffieidd‐dra fydd yn dy ganol di: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

5. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Drwg, drwg unig, wele, a ddaeth.

6. Diwedd a ddaeth, daeth diwedd: y mae yn gwylio amdanat; wele, efe a ddaeth.

7. Daeth y boregwaith atat, breswylydd y tir: daeth yr amser, agos yw y dydd terfysg, ac nid atsain mynyddoedd.

8. Weithian ar fyrder y tywalltaf fy llid arnat, ac y gorffennaf fy nig wrthyt: barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat.

9. A'm llygad nid arbed, ac ni thosturiaf: rhoddaf arnat yn ôl dy ffyrdd, a'th ffieidd‐dra a fydd yn dy ganol di; a chewch wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn taro.

10. Wele y dydd, wele efe yn dyfod: y boregwaith a aeth allan; blodeuodd y wialen, blagurodd balchder.

11. Cyfododd traha yn wialen drygioni: ni bydd un ohonynt, nac o'u lliaws, nac o'r eiddynt, na galar drostynt.

12. Yr amser a ddaeth, y dydd a nesaodd: na lawenyched y prynwr, ac na thristaed y gwerthwr: canys mae dicllonedd ar ei holl liaws hi.

13. Canys y gwerthydd ni ddychwel at yr hyn a werthwyd, er eu bod eto yn fyw: oblegid y weledigaeth sydd am ei holl liaws, y rhai ni ddychwelant: ac nid ymgryfha neb yn anwiredd ei fuchedd.

14. Utganasant yr utgorn, i baratoi pawb: eto nid â neb i'r rhyfel; am fod fy nicllonedd yn erbyn eu holl liaws.

Eseciel 7