Eseciel 7:27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Y brenin a alara, a'r tywysog a wisgir ag anrhaith, a dwylo pobl y tir a drallodir: gwnaf â hwynt yn ôl eu ffordd, ac â'u barnedigaethau y barnaf hwynt; fel y gwybyddont mai myfi yw yr Arglwydd.

Eseciel 7

Eseciel 7:21-27