Eseciel 7:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Tithau, fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth dir Israel; Diwedd, diwedd a ddaeth ar bedair congl y tir.

3. Daeth yr awr hon ddiwedd arnat, a mi a anfonaf fy nig arnat ti; barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat.

4. Fy llygad hefyd ni'th arbed di, ac ni thosturiaf: eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti, a'th ffieidd‐dra fydd yn dy ganol di: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

5. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Drwg, drwg unig, wele, a ddaeth.

Eseciel 7