Eseciel 48:30-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Dyma hefyd fynediad allan y ddinas, o du y gogledd pum cant a phedair mil o fesurau.

31. A phyrth y ddinas fydd ar enwau llwythau Israel: tri phorth tua'r gogledd; porth Reuben yn un, porth Jwda yn un, porth Lefi yn un.

32. Ac ar du y dwyrain pum cant a phedair mil: a thri phorth; sef porth Joseff yn un, porth Benjamin yn un, porth Dan yn un.

33. A thua'r deau pum cant a phedair mil o fesurau: a thri phorth; porth Simeon yn un, a phorth Issachar yn un, a phorth Sabulon yn un.

34. Tua'r gorllewin y bydd pum cant a phedair mil, a'u tri phorth; porth Gad yn un, porth Aser yn un, a phorth Nafftali yn un.

35. Deunaw mil o fesurau oedd hi o amgylch: ac enw y ddinas o'r dydd hwnnw allan fydd, Yr Arglwydd sydd yno.

Eseciel 48