Eseciel 48:30-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Dyma hefyd fynediad allan y ddinas, o du y gogledd pum cant a phedair mil o fesurau.

31. A phyrth y ddinas fydd ar enwau llwythau Israel: tri phorth tua'r gogledd; porth Reuben yn un, porth Jwda yn un, porth Lefi yn un.

32. Ac ar du y dwyrain pum cant a phedair mil: a thri phorth; sef porth Joseff yn un, porth Benjamin yn un, porth Dan yn un.

Eseciel 48