Eseciel 48:14-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Hefyd ni werthant ddim ohono, ac ni chyfnewidiant, ac ni throsglwyddant flaenffrwyth y tir; oherwydd cysegredig yw i'r Arglwydd.

15. A'r pum mil gweddill o'r lled, ar gyfer y pum mil ar hugain, fydd digysegredig, yn drigfa ac yn faes pentrefol i'r ddinas; a'r ddinas fydd yn ei ganol.

16. A dyma ei fesurau ef; Ystlys y gogledd fydd bum cant a phedair mil, ac ystlys y deau yn bum cant a phedair mil, felly o du y dwyrain yn bum cant a phedair mil, a thua'r gorllewin yn bum cant a phedair mil.

17. A maes pentrefol y ddinas fydd hefyd tua'r gogledd yn ddeucant a deg a deugain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua'r deau, ac yn ddeucant a deg a deugain tua'r dwyrain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua'r gorllewin.

18. A'r gweddill o'r hyd, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig, fydd yn ddengmil tua'r dwyrain, ac yn ddengmil tua'r gorllewin: ac ar gyfer offrwm y rhan gysegredig y bydd; a'i gnwd fydd yn ymborth i weinidogion y ddinas.

19. A gweinidogion y ddinas a'i gwasanaethant o holl lwythau Israel.

20. Yr holl offrwm fydd bum mil ar hugain, wrth bum mil ar hugain: yn bedeirongl yr offrymwch yr offrwm cysegredig, gyda pherchenogaeth y ddinas.

21. A'r hyn a adewir fydd i'r tywysog, oddeutu yr offrwm cysegredig, ac o berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y pum mil ar hugain o'r offrwm tua therfyn y dwyrain, a thua'r gorllewin, ar gyfer y pum mil ar hugain tua therfyn y gorllewin, gyferbyn â rhannau y tywysog: a'r offrwm cysegredig fydd; a chysegrfa y tŷ fydd yng nghanol hynny.

22. Felly o berchenogaeth y Lefiaid, ac o berchenogaeth y ddinas, yng nghanol yr hyn sydd i'r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin, eiddo y tywysog fydd.

Eseciel 48