2. Ac efe a'm dug i ar hyd ffordd y porth tua'r gogledd, ac a wnaeth i mi amgylchu y ffordd oddi allan hyd y porth nesaf allan ar hyd y ffordd sydd yn edrych tua'r dwyrain; ac wele ddyfroedd yn tarddu ar yr ystlys deau.
3. A phan aeth y gŵr yr hwn oedd â'r llinyn yn ei law allan tua'r dwyrain, efe a fesurodd fil o gufyddau, ac a'm tywysodd i trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y fferau.
4. Ac efe a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y gliniau: ac a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwodd; a'r dyfroedd hyd y lwynau:
5. Ac efe a fesurodd fil eraill; ac afon oedd, yr hon ni allwn fyned trwyddi: canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi.
6. Ac efe a ddywedodd wrthyf, A welaist ti hyn, fab dyn? Yna y'm tywysodd, ac y'm dychwelodd hyd lan yr afon.
7. Ac wedi i mi ddychwelyd, wele ar fin yr afon goed lawer iawn o'r tu yma ac o'r tu acw.
8. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd hyn sydd yn myned allan tua bro y dwyrain, ac a ddisgynnant i'r gwastad, ac a ânt i'r môr: ac wedi eu myned i'r môr, yr iacheir y dyfroedd.
9. A bydd i bob peth byw, yr hwn a ymlusgo, pa le bynnag y delo yr afonydd, gael byw: ac fe fydd pysgod lawer iawn, oherwydd dyfod y dyfroedd hyn yno: canys iacheir hwynt, a phob dim lle y delo yr afon fydd byw.