Eseciel 47:11-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iacheir; i halen y rhoddir hwynt.

12. Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o'r ddeutu, bob pren ymborth; ei ddalen ni syrth, a'i ffrwyth ni dderfydd: yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd; oherwydd ei ddyfroedd, hwy a ddaethant allan o'r cysegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a'i ddalen yn feddyginiaeth.

13. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma y terfyn wrth yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel: Joseff a gaiff ddwy o rannau.

14. Hefyd chwi a'i hetifeddwch ef, bob un cystal â'i gilydd; am yr hwn y tyngais ar ei roddi i'ch tadau: a'r tir hwn a syrth i chwi yn etifeddiaeth.

15. A dyma derfyn y tir o du y gogledd, o'r môr mawr tua Hethlon, ffordd yr eir i Sedad:

16. Hannath, Berotha, Sibraim, yr hwn sydd rhwng terfyn Damascus a therfyn Hamath: Hasar‐hattichon, yr hwn sydd ar derfyn Hauran.

17. A'r terfyn o'r môr fydd Hasarenan, terfyn Damascus, a'r gogledd tua'r gogledd, a therfyn Hamath. A dyma du y gogledd.

18. Ac ystlys y dwyrain a fesurwch o Hauran, ac o Damascus, ac o Gilead, ac o dir Israel wrth yr Iorddonen, o'r terfyn hyd fôr y dwyrain. A dyma du y dwyrain.

19. A'r ystlys deau tua'r deau, o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, yr afon hyd y môr mawr. A dyma yr ystlys ddeau tua Theman.

20. A thu y gorllewin fydd y môr mawr, o'r terfyn hyd oni ddeler ar gyfer Hamath. Dyma du y gorllewin.

21. Felly y rhennwch y tir hwn i chwi, yn ôl llwythau Israel.

22. Bydd hefyd i chwi ei rannu ef wrth goelbren yn etifeddiaeth i chwi, ac i'r dieithriaid a ymdeithiant yn eich mysg, y rhai a genhedla blant yn eich plith: a byddant i chwi fel un wedi ei eni yn y wlad ymysg meibion Israel; gyda chwi y cânt etifeddiaeth ymysg llwythau Israel.

23. A bydd, ym mha lwyth bynnag yr ymdeithio y dieithr, yno y rhoddwch ei etifeddiaeth ef, medd yr Arglwydd Dduw.

Eseciel 47