Eseciel 46:9-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A phan ddelo pobl y tir o flaen yr Arglwydd ar y gwyliau gosodedig, yr hwn a ddelo i mewn ar hyd ffordd porth y gogledd i addoli, a â allan i ffordd porth y deau; a'r hwn a ddelo ar hyd ffordd porth y deau, a â allan ar hyd ffordd porth y gogledd: na ddychweled i ffordd y porth y daeth i mewn trwyddo, eithr eled allan ar ei gyfer.

10. A phan ddelont hwy i mewn, y daw y tywysog yn eu mysg hwy; a phan elont allan, yr â yntau allan.

11. Ac ar y gwyliau a'r uchel wyliau hefyd y bydd y bwyd‐offrwm o effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a rhodd ei law gyda'r ŵyn, a hin o olew gyda'r effa.

12. A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd, neu aberthau hedd gwirfodd i'r Arglwydd, yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua'r dwyrain, ac efe a ddarpara ei boethoffrwm a'i aberthau hedd, fel y gwnaeth ar y dydd Saboth; ac a â allan: ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan.

Eseciel 46