Eseciel 46:20-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y fan lle y beirw yr offeiriaid yr aberth dros gamwedd a'r pech‐aberth, a lle y pobant y bwyd‐offrwm; fel na ddygont hwynt i'r cyntedd nesaf allan, i sancteiddio y bobl.

21. Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf allan, ac a'm tywysodd heibio i bedair congl y cyntedd; ac wele gyntedd ym mhob congl i'r cyntedd.

22. Ym mhedair congl y cyntedd yr ydoedd cynteddau cysylltiedig o ddeugain cufydd o hyd, a deg ar hugain o led: un fesur oedd y conglau ill pedair.

23. Ac yr ydoedd adail newydd o amgylch ogylch iddynt ill pedair, a cheginau wedi eu gwneuthur oddi tan y muriau oddi amgylch.

24. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma dŷ y cogau, lle y beirw gweinidogion y tŷ aberth y bobl.

Eseciel 46