Eseciel 46:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Porth y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain, fydd yn gaead y chwe diwrnod gwaith; ond ar y dydd Saboth yr agorir ef, ac efe a agorir ar ddydd y newyddloer.

2. A'r tywysog a ddaw ar hyd ffordd cyntedd y porth oddi allan, ac a saif wrth orsing y porth; a'r offeiriaid a ddarparant ei boethoffrwm ef a'i aberthau hedd, ac efe a addola wrth riniog y porth: ac a รข allan: a'r porth ni chaeir hyd yr hwyr.

3. Pobl y tir a addolant hefyd wrth ddrws y porth hwnnw, ar y Sabothau ac ar y newyddloerau, o flaen yr Arglwydd.

Eseciel 46