8. Yn y tir y bydd ei etifeddiaeth ef yn Israel, ac ni orthryma fy nhywysogion fy mhobl i mwy; a'r rhan arall o'r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau.
9. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Digon i chwi hyn, tywysogion Israel; bwriwch ymaith drawster a difrod, gwnewch hefyd farn a chyfiawnder, tynnwch ymaith eich trethau oddi ar fy mhobl, medd yr Arglwydd Dduw.
10. Bydded gennych gloriannau uniawn, ac effa uniawn, a bath uniawn.
11. Bydded yr effa a'r bath un fesur; gan gynnwys o'r bath ddegfed ran homer, a'r effa ddegfed ran homer: wrth yr homer y bydd eu mesur hwynt.
12. Y sicl fydd ugain gera: ugain sicl, a phum sicl ar hugain, a phymtheg sicl, fydd mane i chwi.
13. Dyma yr offrwm a offrymwch: chweched ran effa o homer o wenith; felly y rhoddwch chweched ran effa o homer o haidd.
14. Am ddeddf yr olew, bath o olew, degfed ran bath a roddwch o'r corus; yr hyn yw homer o ddeg bath: oherwydd deg bath yw homer.
15. Un milyn hefyd o'r praidd a offrymwch o bob deucant, allan o ddolydd Israel, yn fwyd‐offrwm, ac yn boethoffrwm, ac yn aberthau hedd, i wneuthur cymod drostynt, medd yr Arglwydd Dduw.
16. Holl bobl y tir fyddant dan yr offrwm hwn i'r tywysog yn Israel.
17. Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm, a bwyd‐offrwm, a diod‐offrwm ar yr uchel wyliau, a'r newyddloerau, a'r Sabothau, trwy holl osodedig wyliau tŷ Israel: efe a ddarpara bech‐aberth, a bwyd‐offrwm, a phoethoffrwm, ac aberthau hedd, i wneuthur cymod dros dŷ Israel.
18. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; O fewn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y cymeri fustach ieuanc perffaith‐gwbl, ac y puri y cysegr.
19. Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech‐aberth, ac a'i rhydd ar orsingau y tŷ, ac ar bedair congl ystôl yr allor, ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn.
20. Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o'r mis, dros y neb a becho yn amryfus, a thros yr ehud: felly y purwch y tŷ.
21. Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, y bydd i chwi y pasg; gŵyl fydd i chwi saith niwrnod: bara croyw a fwytewch.
22. A'r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun, a thros holl bobl y wlad, fustach yn bech‐aberth.