19. Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech‐aberth, ac a'i rhydd ar orsingau y tŷ, ac ar bedair congl ystôl yr allor, ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn.
20. Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o'r mis, dros y neb a becho yn amryfus, a thros yr ehud: felly y purwch y tŷ.
21. Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, y bydd i chwi y pasg; gŵyl fydd i chwi saith niwrnod: bara croyw a fwytewch.
22. A'r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun, a thros holl bobl y wlad, fustach yn bech‐aberth.
23. A saith niwrnod yr ŵyl y darpara efe yn offrwm poeth i'r Arglwydd, saith o fustych, a saith o hyrddod perffaith‐gwbl, bob dydd o'r saith niwrnod; a bwch geifr yn bech‐aberth bob dydd.
24. Bwyd‐offrwm hefyd a ddarpara efe, sef effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a hin o olew gyda'r effa.
25. Yn y seithfed mis, ar y pymthegfed dydd o'r mis, y gwna y cyffelyb ar yr ŵyl dros saith niwrnod; sef fel y pech‐aberth, fel y poethoffrwm, ac fel y bwyd‐offrwm, ac fel yr olew.