1. A phan rannoch y tir wrth goelbren yn etifeddiaeth, yr offrymwch i'r Arglwydd offrwm cysegredig o'r tir; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd, a dengmil o led. Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch.
2. O hyn y bydd i'r cysegr bum cant ar hyd, a phum cant ar led, yn bedeirongl oddi amgylch; a deg cufydd a deugain, yn faes pentrefol iddo o amgylch.
3. Ac o'r mesur hwn y mesuri bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led; ac yn hwnnw y bydd y cysegr, a'r lle sancteiddiolaf.
4. Y rhan gysegredig o'r tir fydd i'r offeiriaid, y rhai a wasanaethant y cysegr, y rhai a nesânt i wasanaethu yr Arglwydd; ac efe a fydd iddynt yn lle tai, ac yn gysegrfa i'r cysegr.
5. A'r pum mil ar hugain o hyd, a'r dengmil o led, fydd hefyd i'r Lefiaid y rhai a wasanaethant y tŷ, yn etifeddiaeth ugain o ystafelloedd.
6. Rhoddwch hefyd bum mil o led, a phum mil ar hugain o hyd, yn berchenogaeth i'r ddinas, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig: i holl dŷ Israel y bydd hyn.
7. A rhan fydd i'r tywysog o'r tu yma ac o'r tu acw i offrwm y rhan gysegredig, ac i berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y rhan gysegredig, ac ar gyfer etifeddiaeth y ddinas, o du y gorllewin tua'r gorllewin, ac o du y dwyrain tua'r dwyrain: a'r hyd fydd ar gyfer pob un o'r rhannau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain.
8. Yn y tir y bydd ei etifeddiaeth ef yn Israel, ac ni orthryma fy nhywysogion fy mhobl i mwy; a'r rhan arall o'r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau.