Eseciel 44:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a wnaeth i mi ddychwelyd ar hyd ffordd porth y cysegr nesaf allan, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain, ac yr oedd yn gaead.

2. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Y porth hwn fydd gaead; nid agorir ef, ac nid â neb i mewn trwyddo ef: oherwydd Arglwydd Dduw Israel a aeth i mewn trwyddo ef; am hynny y bydd yn gaead.

3. I'r tywysog y mae; y tywysog, efe a eistedd ynddo i fwyta bara o flaen yr Arglwydd: ar hyd ffordd cyntedd y porth hwnnw y daw efe i mewn, a hyd ffordd yr un yr â efe allan.

4. Ac efe a'm dug i ffordd porth y gogledd o flaen y tŷ: a mi a edrychais, ac wele, llanwasai gogoniant yr Arglwydd dŷ yr Arglwydd: a mi a syrthiais ar fy wyneb.

Eseciel 44