9. Pellhânt yr awr hon eu puteindra, a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi, a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragywydd.
10. Ti fab dyn, dangos y tŷ i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau; a mesurant y portreiad.
11. Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, hysbysa iddynt ddull y tŷ, a'i osodiad, a'i fynediadau allan, a'i ddyfodiadau i mewn, a'i holl ddull, a'i holl ddeddfau, a'i holl ddull, a'i holl gyfreithiau; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a'i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt.
12. Dyma gyfraith y tŷ; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch. Wele, dyma gyfraith y tŷ.
13. A dyma fesurau yr allor wrth gufyddau. Y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd; y gwaelod fydd yn gufydd, a'r lled yn gufydd, a'i hymylwaith ar ei min o amgylch fydd yn rhychwant: a dyma le uchaf yr allor.
14. Ac o'r gwaelod ar y llawr, hyd yr ystôl isaf, y bydd dau gufydd, ac un cufydd o led; a phedwar cufydd o'r ystôl leiaf hyd yr ystôl fwyaf, a chufydd o led.
15. Felly yr allor fydd bedwar cufydd; ac o'r allor y bydd hefyd tuag i fyny bedwar o gyrn.
16. A'r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd, a deuddeg o led, yn ysgwâr yn ei phedwar ystlys.
17. A'r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd, a phedwar ar ddeg o led, yn ei phedwar ystlys; a'r ymylwaith o amgylch iddi yn hanner cufydd; a'i gwaelod yn gufydd o amgylch: a'i grisiau yn edrych tua'r dwyrain.
18. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma ddeddfau yr allor, yn y dydd y gwneler hi, i boethoffrymu poethoffrwm arni, ac i daenellu gwaed arni.
19. Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid, (y rhai sydd o had Sadoc yn nesáu ataf fi, medd yr Arglwydd Dduw, i'm gwasanaethu,) fustach ieuanc yn bech‐aberth.
20. A chymer o'i waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congl yr ystôl, ac ar yr ymyl o amgylch: fel hyn y glanhei ac y cysegri hi.