Eseciel 43:2-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac wele ogoniant Duw Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain; a'i lais fel sŵn dyfroedd lawer, a'r ddaear yn disgleirio o'i ogoniant ef.

3. Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais, sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum i ddifetha y ddinas: a'r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wyneb.

4. A gogoniant yr Arglwydd a ddaeth i'r tŷ ar hyd ffordd y porth sydd â'i wyneb tua'r dwyrain.

5. Felly yr ysbryd a'm cododd, ac a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn; ac wele, llanwasai gogoniant yr Arglwydd y tŷ.

6. Clywn ef hefyd yn llefaru wrthyf o'r tŷ; ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl.

7. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma le fy ngorseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd; a'm henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy, na hwynt‐hwy, na'u brenhinoedd, trwy eu puteindra, na thrwy gyrff meirw eu brenhinoedd yn eu huchel leoedd.

8. Wrth osod eu rhiniog wrth fy rhiniog i, a'u gorsin wrth fy ngorsin i, a phared rhyngof fi a hwynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd â'u ffieidd‐dra y rhai a wnaethant: am hynny mi a'u hysais hwy yn fy llid.

9. Pellhânt yr awr hon eu puteindra, a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi, a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragywydd.

10. Ti fab dyn, dangos y tŷ i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau; a mesurant y portreiad.

11. Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, hysbysa iddynt ddull y tŷ, a'i osodiad, a'i fynediadau allan, a'i ddyfodiadau i mewn, a'i holl ddull, a'i holl ddeddfau, a'i holl ddull, a'i holl gyfreithiau; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a'i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt.

12. Dyma gyfraith y tŷ; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch. Wele, dyma gyfraith y tŷ.

13. A dyma fesurau yr allor wrth gufyddau. Y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd; y gwaelod fydd yn gufydd, a'r lled yn gufydd, a'i hymylwaith ar ei min o amgylch fydd yn rhychwant: a dyma le uchaf yr allor.

14. Ac o'r gwaelod ar y llawr, hyd yr ystôl isaf, y bydd dau gufydd, ac un cufydd o led; a phedwar cufydd o'r ystôl leiaf hyd yr ystôl fwyaf, a chufydd o led.

15. Felly yr allor fydd bedwar cufydd; ac o'r allor y bydd hefyd tuag i fyny bedwar o gyrn.

16. A'r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd, a deuddeg o led, yn ysgwâr yn ei phedwar ystlys.

17. A'r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd, a phedwar ar ddeg o led, yn ei phedwar ystlys; a'r ymylwaith o amgylch iddi yn hanner cufydd; a'i gwaelod yn gufydd o amgylch: a'i grisiau yn edrych tua'r dwyrain.

18. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma ddeddfau yr allor, yn y dydd y gwneler hi, i boethoffrymu poethoffrwm arni, ac i daenellu gwaed arni.

Eseciel 43