Eseciel 43:19-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid, (y rhai sydd o had Sadoc yn nesáu ataf fi, medd yr Arglwydd Dduw, i'm gwasanaethu,) fustach ieuanc yn bech‐aberth.

20. A chymer o'i waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congl yr ystôl, ac ar yr ymyl o amgylch: fel hyn y glanhei ac y cysegri hi.

21. Cymeri hefyd fustach y pech‐aberth, ac efe a'i llysg ef yn y lle nodedig i'r tŷ, o'r tu allan i'r cysegr.

22. Ac ar yr ail ddydd ti a offrymi fwch geifr perffaith‐gwbl yn bech‐aberth; a hwy a lanhânt yr allor, megis y glanhasant hi â'r bustach.

23. Pan orffennych ei glanhau, ti a offrymi fustach ieuanc perffaith‐gwbl, a hwrdd perffaith‐gwbl o'r praidd.

24. Ac o flaen yr Arglwydd yr offrymi hwynt; a'r offeiriaid a fwriant halen arnynt, ac a'u hoffrymant hwy yn boethoffrwm i'r Arglwydd.

25. Saith niwrnod y darperi fwch yn bech‐aberth bob dydd; darparant hefyd fustach ieuanc, a hwrdd o'r praidd, o rai perffaith‐gwbl.

26. Saith niwrnod y cysegrant yr allor, ac y glanhânt hi, ac yr ymgysegrant.

27. A phan ddarffo y dyddiau hyn, bydd ar yr wythfed dydd, ac o hynny allan, i'r offeiriaid offrymu ar yr allor eich poethoffrymau a'ch ebyrth hedd: a mi a fyddaf fodlon i chwi, medd yr Arglwydd Dduw.

Eseciel 43