Eseciel 42:2-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Drws y gogledd oedd ar gyfer hyd y can cufydd, a lled y deg cufydd a deugain.

3. Ar gyfer yr ugain cufydd y rhai oedd i'r cyntedd nesaf i mewn, ac ar gyfer y palmant yr hwn oedd i'r cyntedd nesaf allan, yr ydoedd ystafell ar gyfer ystafell yn dri uchder.

4. Ac o flaen yr ystafelloedd yr oedd rhodfa yn ddeg cufydd o led oddi fewn, ffordd o un cufydd, a'u drysau tua'r gogledd.

5. A'r ystafelloedd uchaf oedd gulion: oherwydd yr ystafelloedd oeddynt uwch na'r rhai hyn, na'r rhai isaf ac na'r rhai canol o'r adeiladaeth.

6. Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy, ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na'r rhai isaf ac na'r rhai canol o'r llawr i fyny.

Eseciel 42