Eseciel 42:15-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Pan orffenasai efe fesuro y tŷ oddi fewn, efe a'm dug i tua'r porth sydd â'i wyneb tua'r dwyrain, ac a'i mesurodd ef o amgylch ogylch.

16. Efe a fesurodd du y dwyrain â chorsen fesur, yn bum cant o gorsennau, wrth y gorsen fesur oddi amgylch.

17. Efe a fesurodd du y gogledd yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur oddi amgylch.

18. Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur.

19. Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin, ac a fesurodd bum can corsen, wrth y gorsen fesur.

20. Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef: mur oedd iddo ef o amgylch ogylch, yn bum can corsen o hyd, ac yn bum can corsen o led, i wahanu rhwng y cysegr a'r digysegr.

Eseciel 42