Eseciel 41:16-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Y gorsingau, a'r ffenestri cyfyng, a'r ystafelloedd o amgylch ar eu tri uchder, ar gyfer y rhiniog a ystyllenasid â choed o amgylch ogylch, ac o'r llawr hyd y ffenestri, a'r ffenestri hefyd a ystyllenasid;

17. Hyd uwchben y drws, a hyd y tŷ o fewn ac allan, ac ar yr holl bared o amgylch ogylch o fewn ac allan, wrth fesurau.

18. A cheriwbiaid hefyd ac â phalmwydd y gweithiasid ef, palmwydden rhwng pob dau geriwb: a dau wyneb oedd i bob ceriwb.

19. Canys wyneb dyn oedd tua'r balmwydden o'r naill du, ac wyneb llew tua'r balmwydden o'r tu arall: yr oedd wedi ei weithio ar hyd y tŷ o amgylch ogylch.

20. Ceriwbiaid a phalmwydd a weithiasid o'r ddaear hyd oddi ar y drws, ac ar bared y deml.

21. Pedwar ochrog oedd pyst y deml, ac wyneb y cysegr; gwelediad y naill fel gwelediad y llall.

22. Yr allor bren oedd dri chufydd ei huchder, a'i hyd yn ddau gufydd: a'i chonglau, a'i huchder, a'i pharwydydd, oedd o bren. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y bwrdd sydd gerbron yr Arglwydd.

23. Ac yr ydoedd dau ddrws i'r deml ac i'r cysegr:

24. A dwy ddôr i'r drysau, sef dwy ddôr blygedig; dwy ddôr i'r naill ddrws, a dwy ddôr i'r llall.

25. A gwnaethid arnynt, ar ddrysau y deml, geriwbiaid a phalmwydd, fel y gwnaethid ar y parwydydd: ac yr oedd trawstiau coed ar wyneb y cyntedd o'r tu allan.

26. Ffenestri cyfyng hefyd a phalmwydd oedd o bob tu, ar ystlysau y porth, ac ar ystafelloedd y tŷ, a'r trawstiau.

Eseciel 41