22. Eu ffenestri hefyd, a'u bwâu meini, a'u palmwydd, oedd wrth fesur y porth oedd â'i wyneb tua'r dwyrain; ar hyd saith o risiau hefyd y dringent iddo; a'i fwâu meini oedd o'u blaen hwynt.
23. A phorth y cyntedd nesaf i mewn oedd ar gyfer y porth tua'r gogledd, a thua'r dwyrain: ac efe a fesurodd o borth i borth gan cufydd.
24. Wedi hynny efe a'm dug i tua'r deau, ac wele borth tua'r deau, ac efe a fesurodd ei byst a'i fwâu meini wrth y mesurau hyn.
25. Ffenestri hefyd oedd iddo ac i'w fwâu meini, o amgylch ogylch, fel y ffenestri hynny, yn ddeg cufydd a deugain o hyd, ac yn bum cufydd ar hugain o led.
26. Saith o risiau hefyd oedd ei esgynfa ef, a'i fwâu meini o'u blaen hwynt: yr oedd hefyd iddo balmwydd, un o'r tu yma, ac un o'r tu acw, ar ei byst ef.
27. Ac yr oedd porth yn y cyntedd nesaf i mewn tua'r deau: ac efe a fesurodd o borth i borth, tua'r deau, gan cufydd.
28. Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn trwy borth y deau: ac a fesurodd borth y deau wrth y mesurau hyn;
29. A'i ystafelloedd, a'i byst, a'i fwâu meini, wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: deg cufydd a deugain oedd yr hyd, a phum cufydd ar hugain y lled.
30. A'r bwâu meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hyd, a phum cufydd o led.
31. A'i fwâu meini oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst; ac wyth o risiau oedd ei esgynfa ef.
32. Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn tua'r dwyrain: ac a fesurodd y porth wrth y mesurau hyn.
33. A'i ystafelloedd, a'i byst, a'i fwâu meini, oedd wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo ef, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a'r lled yn bum cufydd ar hugain.
34. A'i fwâu meini oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst o'r tu yma, ac o'r tu acw; a'i esgynfa oedd wyth o risiau.
35. Ac efe a'm dug i borth y gogledd, ac a'i mesurodd wrth y mesurau hyn:
36. Ei ystafelloedd, ei byst, a'i fwâu meini, a'r ffenestri iddo o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a'r lled oedd bum cufydd ar hugain.
37. A'i byst oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd ar ei byst o'r tu yma, ac o'r tu acw; a'i esgynfa oedd wyth o risiau.
38. A'r celloedd a'u drysau oedd wrth byst y pyrth, lle y golchent y poethoffrwm.
39. Ac yng nghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o'r tu yma, a dau fwrdd o'r tu acw, i ladd y poethoffrwm, a'r pech‐aberth, a'r aberth dros gamwedd, arnynt.
40. Ac ar yr ystlys oddi allan, lle y dringir i ddrws porth y gogledd, yr oedd dau fwrdd; a dau fwrdd ar yr ystlys arall, yr hwn oedd wrth gyntedd y porth.
41. Pedwar bwrdd oedd o'r tu yma, a phedwar bwrdd o'r tu acw, ar ystlys y porth; wyth bwrdd, ar y rhai y lladdent eu haberthau.
42. A'r pedwar bwrdd i'r poethoffrwm oedd o gerrig nadd, yn un cufydd a hanner o hyd, ac yn un cufydd a hanner o led, ac yn un cufydd o uchder: arnynt hwy hefyd y gosodent yr offer y rhai y lladdent yr offrwm poeth a'r aberth â hwynt.