Eseciel 39:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A phreswylwyr dinasoedd Israel a ânt allan, ac a gyneuant ac a losgant yr arfau, a'r darian a'r astalch, y bwa a'r saethau, a'r llawffon a'r waywffon; ie, losgant hwynt yn tân saith mlynedd.

10. Ac ni ddygant goed o'r maes, ac ni thorrant ddim o'r coedydd; canys â'r arfau y cyneuant dân: a hwy a ysbeiliant eu hysbeilwyr, ac a ysglyfaethant oddi ar eu hysglyfaethwyr, medd yr Arglwydd Dduw.

11. Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i mi roddi i Gog le bedd yno yn Israel, dyffryn y fforddolion o du dwyrain y môr: ac efe a gae ffroenau y fforddolion: ac yno y claddant Gog a'i holl dyrfa, a galwant ef Dyffryn Hamon‐gog.

12. A thŷ Israel fydd yn eu claddu hwynt saith mis, er mwyn glanhau y tir.

13. Ie, holl bobl y tir a'u claddant; a hyn fydd enwog iddynt y dydd y'm gogonedder, medd yr Arglwydd Dduw.

14. A hwy a neilltuant wŷr gwastadol, y rhai a gyniweiriant trwy y wlad i gladdu gyda'r fforddolion y rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, i'w glanhau hi: ymhen saith mis y chwiliant.

15. A'r tramwywyr a gyniweiriant trwy y tir, pan welo un asgwrn dyn, efe a gyfyd nod wrtho, hyd oni chladdo y claddwyr ef yn nyffryn Hamon‐gog.

16. Ac enw y ddinas hefyd fydd Hamona. Felly y glanhânt y wlad.

17. Tithau fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dywed wrth bob rhyw aderyn, ac wrth holl fwystfilod y maes, Ymgesglwch, a deuwch; ymgynullwch oddi amgylch at fy aberth yr ydwyf fi yn ei aberthu i chwi, aberth mawr ar fynyddoedd Israel, fel y bwytaoch gig, ac yr yfoch waed.

18. Cig y cedyrn a fwytewch, a chwi a yfwch waed tywysogion y ddaear, hyrddod, ŵyn, a bychod, bustych, yn basgedigion Basan oll.

19. Bwytewch hefyd fraster hyd ddigon, ac yfwch waed hyd oni feddwoch, o'm haberth a aberthais i chwi.

20. Felly y'ch diwellir ar fy mwrdd i â meirch a cherbydau, â gwŷr cedyrn a phob rhyfelwr, medd yr Arglwydd Dduw.

21. A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a'r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a'm llaw yr hon a osodais arnynt.

Eseciel 39