19. Bwytewch hefyd fraster hyd ddigon, ac yfwch waed hyd oni feddwoch, o'm haberth a aberthais i chwi.
20. Felly y'ch diwellir ar fy mwrdd i â meirch a cherbydau, â gwŷr cedyrn a phob rhyfelwr, medd yr Arglwydd Dduw.
21. A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a'r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a'm llaw yr hon a osodais arnynt.
22. A thŷ Israel a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt o'r dydd hwnnw allan.
23. Y cenhedloedd hefyd a gânt wybod mai am eu hanwiredd eu hun y caethgludwyd tŷ Israel: oherwydd gwneuthur ohonynt gamwedd i'm herbyn, am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt, ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion: felly hwy a syrthiasant oll trwy y cleddyf.
24. Yn ôl eu haflendid eu hun, ac yn ôl eu hanwireddau, y gwneuthum â hwynt, ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt.
25. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr awr hon y dychwelaf gaethiwed Jacob, tosturiaf hefyd wrth holl dŷ Israel, a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd;