1. Proffwyda hefyd, fab dyn, yn erbyn Gog, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen‐tywysog Mesech a Thubal.
2. A mi a'th ddychwelaf, ac ni adawaf ohonot ond y chweched ran, ac a'th ddygaf i fyny o ystlysau y gogledd, ac a'th ddygaf ar fynyddoedd Israel:
3. Ac a drawaf dy fwa o'th law aswy, a gwnaf i'th saethau syrthio o'th law ddeau.
4. Ar fynyddoedd Israel y syrthi, ti a'th holl fyddinoedd, a'r bobloedd sydd gyda thi: i'r ehediaid, i bob rhyw aderyn, ac i fwystfilod y maes, y'th roddaf i'th ddifa.
5. Ar wyneb y maes y syrthi; canys myfi a'i dywedais, medd yr Arglwydd Dduw.
6. Anfonaf hefyd dân ar Magog, ac ymysg y rhai a breswyliant yr ynysoedd yn ddifraw; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
7. Felly y gwnaf adnabod fy enw sanctaidd yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni adawaf halogi fy enw sanctaidd mwy: a'r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, y Sanct yn Israel.
8. Wele, efe a ddaeth, ac a ddarfu, medd yr Arglwydd Dduw; dyma y diwrnod am yr hwn y dywedais.