Eseciel 37:3-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, a fydd byw yr esgyrn hyn? A mi a ddywedais, O Arglwydd Dduw, ti a'i gwyddost.

4. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda am yr esgyrn hyn, a dywed wrthynt, O esgyrn sychion, clywch air yr Arglwydd.

5. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth yr esgyrn hyn; Wele fi yn dwyn anadl i'ch mewn, fel y byddoch byw.

6. Giau hefyd a roddaf arnoch, a pharaf i gig gyfodi arnoch, gwisgaf chwi hefyd â chroen, a rhoddaf anadl ynoch: fel y byddoch byw, ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

7. Yna y proffwydais fel y'm gorchmynasid; ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu sŵn, ac wele gynnwrf, a'r esgyrn a ddaethant ynghyd, asgwrn at ei asgwrn.

8. A phan edrychais, wele, cyfodasai giau a chig arnynt, a gwisgasai croen amdanynt; ond nid oedd anadl ynddynt.

9. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda tua'r gwynt, proffwyda, fab dyn, a dywed wrth y gwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; O anadl, tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw.

10. Felly y proffwydais fel y'm gorchmynasid; a'r anadl a ddaeth ynddynt, a buant fyw, a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn.

11. Yna y dywedodd wrthyf, Ha fab dyn, yr esgyrn hyn ydynt dŷ Israel oll: wele, dywedant, Ein hesgyrn a wywasant, a'n gobaith a gollodd; torrwyd ni ymaith o'n rhan ni.

Eseciel 37