Eseciel 36:29-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Achubaf chwi hefyd oddi wrth eich holl aflendid: a galwaf am yr ŷd, ac a'i hamlhaf; ac ni roddaf arnoch newyn.

30. Amlhaf hefyd ffrwyth y coed, a chynnyrch y maes, fel na ddygoch mwy waradwydd newyn ymysg y cenhedloedd.

31. Yna y cofiwch eich ffyrdd drygionus, a'ch gweithredoedd nid oeddynt dda, a byddwch yn ffiaidd gennych eich hunain am eich anwireddau ac am eich ffieidd‐dra.

32. Nid er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, medd yr Arglwydd Dduw; bydded hysbys i chwi: tŷ Israel, gwridwch a chywilyddiwch am eich ffyrdd eich hun.

33. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yn y dydd y glanhawyf chwi o'ch holl anwireddau, y paraf hefyd i chwi gyfanheddu y dinasoedd, ac yr adeiledir yr anghyfaneddleoedd.

34. A'r tir anrheithiedig a goleddir, lle y bu yn anrhaith yng ngolwg pob cyniweirydd.

35. A hwy a ddywedant, Y tir anrheithiedig hwn a aeth fel gardd Eden, a'r dinasoedd anghyfannedd, ac anrheithiedig, a dinistriol, a aethant yn gaerog, ac a gyfanheddir.

36. Felly y cenhedloedd y rhai a weddillir o'ch amgylch, a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn adeiladu y lleoedd dinistriol, ac yn plannu eich mannau anrheithiedig: myfi yr Arglwydd a'i lleferais, ac a'i gwnaf.

37. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ymofynnir â myfi eto gan dŷ Israel, i wneuthur hyn iddynt; amlhaf hwynt â dynion fel praidd.

38. Fel y praidd sanctaidd, fel praidd Jerwsalem yn ei huchel wyliau, felly y dinasoedd anghyfannedd fyddant lawn o finteioedd o ddynion; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

Eseciel 36