Eseciel 36:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Tithau fab dyn, proffwyda wrth fynyddoedd Israel, a dywed, Gwrandewch, fynyddoedd Israel, air yr Arglwydd.

2. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Oherwydd dywedyd o'r gelyn hyn amdanoch chwi, Aha, aeth yr hen uchelfaon hefyd yn etifeddiaeth i ni:

3. Am hynny proffwyda, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; oherwydd iddynt eich anrheithio, a'ch llyncu o amgylch, i fod ohonoch yn etifeddiaeth i weddill y cenhedloedd, a myned ohonoch yn watwargerdd tafodau, ac yn ogan pobloedd:

4. Am hynny, mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd Dduw; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, wrth y diffeithwch anghyfanheddol, ac wrth y dinasoedd gwrthodedig, y rhai a aeth yn ysbail ac yn watwar i'r rhan arall o'r cenhedloedd o'u hamgylch:

5. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Diau yn angerdd fy eiddigedd y lleferais yn erbyn y rhan arall o'r cenhedloedd, ac yn erbyn holl Edom, y rhai a roddasant fy nhir i yn etifeddiaeth iddynt eu hun, รข llawenydd eu holl galon, trwy feddwl dirmygus, i'w yrru allan yn ysbail.

6. Am hynny proffwyda am dir Israel, a dywed wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele, yn fy eiddigedd ac yn fy llid y lleferais, oherwydd dwyn ohonoch waradwydd y cenhedloedd.

7. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Myfi a dyngais, Diau y dwg y cenhedloedd sydd o'ch amgylch chwi eu gwaradwydd.

Eseciel 36