8. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, am fod fy mhraidd yn ysbail, a bod fy mhraidd yn ymborth i holl fwystfilod y maes, o eisiau bugail, ac na cheisiodd fy mugeiliaid fy mhraidd, eithr y bugeiliaid a'u porthasant eu hun, ac ni phorthasant fy mhraidd:
9. Am hynny, O fugeiliaid, gwrandewch air yr Arglwydd.
10. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn y bugeiliaid: a gofynnaf fy mhraidd ar eu dwylo hwynt, a gwnaf iddynt beidio รข phorthi y praidd; a'r bugeiliaid ni phorthant eu hun mwy: canys gwaredaf fy mhraidd o'u safn hwy, fel na byddont yn ymborth iddynt.
11. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele myfi, ie, myfi a ymofynnaf am fy mhraidd, ac a'u ceisiaf hwynt.