Eseciel 34:21-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Oherwydd gwthio ohonoch ag ystlys ac ag ysgwydd, a chornio ohonoch â'ch cyrn y rhai llesg oll, hyd oni wasgarasoch hwynt allan:

22. Am hynny y gwaredaf fy mhraidd, fel na byddont mwy yn ysbail; a barnaf rhwng milyn a milyn.

23. Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a'u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a'u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt.

24. A minnau yr Arglwydd a fyddaf yn Dduw iddynt, a'm gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg: myfi yr Arglwydd a leferais hyn.

25. Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod heddwch, a gwnaf i'r bwystfil drwg beidio o'r tir: a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch, ac a gysgant yn y coedydd.

26. Hwynt hefyd ac amgylchoedd fy mryn a wnaf yn fendith: a gwnaf i'r glaw ddisgyn yn ei amser; cawodydd bendith a fydd.

27. A rhydd pren y maes ei ffrwyth, a'r tir a rydd ei gynnyrch, a byddant yn eu tir eu hun mewn diogelwch, ac a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan dorrwyf rwymau eu hiau hwynt, a'u gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt.

Eseciel 34