20. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrthynt hwy; Wele myfi, ie, myfi a farnaf rhwng milyn bras a milyn cul.
21. Oherwydd gwthio ohonoch ag ystlys ac ag ysgwydd, a chornio ohonoch â'ch cyrn y rhai llesg oll, hyd oni wasgarasoch hwynt allan:
22. Am hynny y gwaredaf fy mhraidd, fel na byddont mwy yn ysbail; a barnaf rhwng milyn a milyn.
23. Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a'u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a'u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt.
24. A minnau yr Arglwydd a fyddaf yn Dduw iddynt, a'm gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg: myfi yr Arglwydd a leferais hyn.
25. Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod heddwch, a gwnaf i'r bwystfil drwg beidio o'r tir: a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch, ac a gysgant yn y coedydd.
26. Hwynt hefyd ac amgylchoedd fy mryn a wnaf yn fendith: a gwnaf i'r glaw ddisgyn yn ei amser; cawodydd bendith a fydd.
27. A rhydd pren y maes ei ffrwyth, a'r tir a rydd ei gynnyrch, a byddant yn eu tir eu hun mewn diogelwch, ac a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan dorrwyf rwymau eu hiau hwynt, a'u gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt.
28. Ac ni byddant mwyach yn ysbail i'r cenhedloedd, a bwystfil y tir nis bwyty hwynt; eithr trigant mewn diogelwch, ac ni bydd a'u dychryno.
29. Cyfodaf iddynt hefyd blanhigyn enwog, ac ni byddant mwy wedi trengi o newyn yn y tir, ac ni ddygant mwy waradwydd y cenhedloedd.
30. Fel hyn y cânt wybod mai myfi yr Arglwydd eu Duw sydd gyda hwynt, ac mai hwythau, tŷ Israel, yw fy mhobl i, medd yr Arglwydd Dduw.
31. Chwithau, fy mhraidd, defaid fy mhorfa, dynion ydych chwi, myfi yw eich Duw chwi, medd yr Arglwydd Dduw.